Heddiw mae’r tîm Taith wedi cyhoeddi canlyniadau rownd gyntaf cyllid rhaglen Llwybr 1, a agorodd ym mis Mawrth 2022 ac a gaeodd i geisiadau ym mis Mai 2022.
Erbyn hyn mae’r holl ymgeiswyr llwyddiannus wedi eu cael wybod ac mae rhai hyd yn oed wedi dechrau ar eu prosiectau.
Roeddem wrth ein bodd i weld cymaint o ymgeiswyr llwyddiannus o’r sector Ieuenctid ac yn gobeithio, wrth i’r rhaglen barhau, y bydd y llwyddiant yn tyfu. Mae’r profiadau dysgu rhyngwladol hyn i bobl ifanc yng Nghymru mor bwysig a gobeithiwn y byddant yn cyfoethogi gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc fel ei gilydd.
Gallwch ddod o hyd i ddatganiad i’r wasg yma ac am ragor o wybodaeth mae’n werth ei ddilyn ar gyfryngau cymdeithasol:
https://www.linkedin.com/company/taithwales
https://twitter.com/TaithWales
https://www.facebook.com/Taith-101485822453103
https://www.youtube.com/channel/UC7P1JDk8WMOnBOok3qeFxFg
Nodyn atgoffa olaf; yfory a dydd Gwener gallwch ymuno â thîm Taith yn eu gweminarau ar Llwybr 2:
4 yp Dydd Iau y 27ain o Hydref (yn Gymraeg)
12 yp Dydd Gwener yr 28ain o Hydref (yn Saesneg)
https://www.taith.cymru/event/llwybr-2-offeryn-cyfrifo-a-ffurflen-gais/
Os hoffech gyflwyno cwestiynau ac ymholiadau i’r cyflwynwyr ymlaen llaw, gallwch wneud hynny drwy: ymholiadautaith@taith.cymru