Mae EYST Cymru yn sefydliad arobryn unigryw a ddechreuodd ei daith yn 2001; cenhedlwyd a sefydlwyd gan Momena Ali ac yna ei chyfansoddi fel EYST gyda grŵp o bobl ifanc o leiafrifoedd ethnig yn 2005.
Ers hynny rydym wedi ehangu a thyfu yn organig a bob amser mewn ymateb i anghenion y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu; o gefnogi pobl ifanc o leiafrifoedd ethnig i deuluoedd ac unigolion o bob oed ledled Cymru.
Ein nod yw rhoi’r cyfle i bobl o leiafrifoedd ethnig gyrraedd eu llawn botensial trwy raglenni cyfannol, wedi’u targedu ac sy’n sensitif yn ddiwylliannol sy’n cwmpasu addysg, cyflogaeth, iechyd, diogelwch cymunedol a chydlyniant. Ategir y cyfan gan weledigaeth lle gall pawb gyfrannu, cymryd rhan a ffynnu yng Nghymru.