![](https://www.cwvys.org.uk/wp-content/uploads/2020/09/NYAS-Cymru-logo-300x225-1.jpg)
Mae NYAS Cymru yn sefydliad sy’n seiliedig ar hawliau sy’n darparu eiriolaeth i rai o’r plant a’r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Ochr yn ochr â’n hymyrraeth eiriolaeth rydym yn darparu rhaglenni cyfranogi ieuenctid ar gyfer pobl ifanc â phrofiad gofal sy’n cynnwys; iechyd meddwl a lles, dull hawliau plentyn o blismona, cefnogaeth i ferched ifanc sy’n feichiog / sydd â phlant, plant sy’n ceisio lloches ar eu pen eu hunain a digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Rydym yn ymgyrchu ac yn lobïo ar y materion sydd bwysicaf ac yn effeithio ar blant a phobl ifanc mewn gofal. Rydyn ni bob amser ar ochr y plentyn / person ifanc.
Hyfforddiant a gynigir – Eiriolaeth a Hawliau Phlant