Mae RawFfest yn hyrwyddo ac yn cefnogi gwaith celf gan artistiaid a pherfformwyr ifanc 14-25 oed.
yn cael ei angori mewn lleoliad celfyddydol gyda lleoliadau lloeren mewn amgylcheddau trefol ac yn ymestyn allan i ardaloedd gwledig.
cynyddu cyfranogiad yn y celfyddydau i bobl ifanc sydd yn y sedd yrru drwyddi draw. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolaeth ar y grŵp llywio, curadu’r ŵyl, gweithio fel prentisiaid, a chael eich hyfforddi fel gwirfoddolwyr.
yn cynnig rhaglen dros 4 diwrnod (dydd Iau i ddydd Sul) yng nghanol mis Awst.
yn archwilio cyfleoedd ar gyfer cyfnewid sgiliau a rhyngweithio cymdeithasol. Mae’r ŵyl yn gyfrwng i hyfforddi pobl ifanc mewn ymarfer celfyddydol ac er mwyn cael profiad trochi manwl, dylai’r holl gyfranogwyr gael llety agos.
yn gynaliadwy, yn hygyrch ac yn fforddiadwy i bobl ifanc yng Nghymru. Mae’r ŵyl yn ddwyieithog ac rydym wedi ymrwymo i wneud yr ŵyl hon mor gynhwysol â phosibl ac yn mynd ati i chwilio am amrywiaeth yn ei holl agweddau.