Mae Canolfan Gofalwyr Abertawe yn sefydliad gwirfoddol arbenigol sy’n darparu cefnogaeth i ofalwyr a chyn-ofalwyr ledled Dinas a Sir Abertawe.
Rydym yn cefnogi pobl sy’n gofalu am y rhai sydd â salwch neu anabledd gan gynnwys anabledd dysgu, problemau iechyd meddwl, anabledd corfforol, dementia a salwch cyfyngol tymor hir arall.
Nod Canolfan Gofalwyr Abertawe yw rhoi cefnogaeth a gwybodaeth y mae mawr eu hangen i ofalwyr ledled Abertawe trwy ddarparu cyngor budd-dal lles, mynediad at grantiau a chronfeydd arbennig, gwasanaeth cwnsela, cefnogaeth i rieni gofalwyr, cymorth dementia, oedolion sy’n ofalwyr ifanc (16-25), seibiant gofal, cyfleoedd gwirfoddoli, grwpiau cyd-gymorth gofalwyr, hyfforddiant, cyfleoedd ymgynghori a digwyddiadau cymdeithasol.