Mae’r Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Plant Dall (RSBC) yn elusen genedlaethol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc (CYP) 0-25 oed sydd â nam ar eu golwg (VI) i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Mae gennym 180 mlynedd o brofiad o gefnogi lles plant VI a’u teuluoedd.

Ein gweledigaeth yw na ddylai unrhyw blentyn dyfu i fyny i fod yn dlawd neu’n unig oherwydd ei fod yn ddall. Mae ein gwasanaethau arloesol sy’n newid bywyd yn canolbwyntio ar alluogi pobl ifanc ddall i fyw bywyd heb derfynau trwy adeiladu a gwella hyder, sgiliau, dysgu, iechyd, rhyngweithio cymdeithasol a chynhwysiant. Maent yn cynnwys:

• Amrywiaeth o gyfleoedd addysgol, cymdeithasol, creadigol, chwaraeon, lles, cyflogaeth a sgiliau bywyd ymarferol i blant a phobl ifanc gymdeithasu, cyrchu gweithgareddau cymunedol prif ffrwd a hybu datblygiad personol, hunanhyder, sgiliau bywyd, dod o hyd i gyflogaeth a meithrin annibyniaeth.
• Ein Gwasanaeth Teuluoedd yn Gyntaf i rieni a theuluoedd: cefnogi teuluoedd i ymdopi â diagnosis eu plentyn trwy wasanaethau cymorth ymarferol ac emosiynol yn eu cartrefi eu hunain.

Eye Connect

I gael gwybodaeth am yr hyfforddiant sydd ar gael i Weithwyr Ieuenctid i wneud darpariaeth ieuenctid yn fwy cynhwysol i bobl ifanc ddall a rhannol ddall, ewch i; https://www.cwvys.org.uk/rhaglen-access-unlimited-rsbc-gwneud-gwaith-ieuenctid-yn-fwy-cynhwysol-i-blant-a-phobl-ifanc-dall-a-rhannol-ddall/?lang=cy