yn darparu gweithgareddau hamdden rhad ac am ddim a chynhwysol i 300+ o blant a phobl ifanc 10-25 oed, gan gefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles trwy ddarparu lle diogel i fynd iddo mewn ardal wledig ddifreintiedig. Mae’r ganolfan ar agor chwe noson yr wythnos, ac yn cynnal gweithgareddau gwyliau, teithiau a gwibdeithiau hefyd.
Darperir hyfforddiant mewn Gwaith Ieuenctid, Cyflogadwyedd a Sgiliau Menter ac mae llawer o gyfleoedd i wirfoddoli.
Mae pobl ifanc yn ymwneud â chelf, crefftau, cerddoriaeth, chwaraeon, ffilm, ffotograffiaeth, drama, gemau, garddio a choginio, ac mae staff bob amser yn barod i roi cymorth a chyngor ar ystod eang o faterion.
Ar nos Lun mae sesiwn galw heibio tawelach i blant a phobl ifanc ag anhwylderau gorbryder neu a all fod ar y sbectrwm awtistig. Mae hon yn sesiwn wedi’i theilwra lle mae staff a gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n briodol yn darparu cymorth ychwanegol. Mae’n well gan rai plant sy’n cael eu haddysgu gartref fynychu’r sesiwn galw heibio dawelach hon hefyd.
Ar ddydd Mawrth yn ystod y dydd mae grŵp cymorth cymheiriaid wythnosol o’r enw BESPOKE ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl â phroblemau symudedd, ac ar ddydd Mercher mae sesiwn hyfforddiant galwedigaethol wythnosol ar gyfer grŵp sipsiwn lleol.
Mae stiwdio ffilm a cherddoriaeth fechan o’r enw The Boatyard, lle gall plant a phobl ifanc ddysgu ysgrifennu a chwarae cerddoriaeth, canu a dysgu offerynnau, dysgu sgiliau DJ a chreu ffilmiau a ffotograffiaeth. Ers 2018 mae pobl ifanc wedi cael eu cyflogi ar brosiect gwneud ffilmiau a phodlediadau o’r enw Postcards and Podcasts (@postcardsandpodcasts), sy’n helpu sefydliadau lleol i hyrwyddo’r hyn maen nhw’n ei wneud trwy gyfryngau digidol modern.