“Mae Valleys Kids yn dathlu cyflawniad unigolion, sydd, trwy roi cynnig ar wahanol weithgareddau a chael profiadau gwahanol, yn ehangu eu gorwelion ac yn cyflawni eu potensial”.
Mae Valleys Kids yn sefydliad datblygu cymunedol a gofrestrwyd fel elusen a chwmni cyfyngedig drwy warant, a ymgorfforwyd yn 1999. Mae Valleys Kids yn cael ei redeg gan ac ar gyfer pobl leol gyda dros 30% o’n staff medrus yn cael eu tyfu o fewn y sefydliad ac mae ganddo hanes o mwy na 40 mlynedd o weithio yng nghalon y cymunedau rydym yn ceisio eu cefnogi, gan ymateb yn ddychmygus i anghenion a nodwyd gan y gymuned a hyrwyddo datblygiad iach a chynhwysiant cymdeithasol plant, pobl ifanc a’u teuluoedd sy’n byw yn rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yn Cymru.
Mae dros 3,500 o aelodau’n defnyddio ein gwasanaethau’n rheolaidd gan wneud mwy na 60,000 o ymweliadau bob blwyddyn. Nid presenoldeb un tro yw’r rhain, ond cyfranogiad parhaus mewn grwpiau a rhaglenni. Mae dros 100 o oedolion a phobl ifanc yn gwirfoddoli bob blwyddyn ac yn helpu i gynllunio a rhedeg gweithgareddau o’n Canolfannau Teulu Cymunedol.
Mae Valleys Kids yn ymgynghori â’r gymuned yn rheolaidd ac yn datblygu gwasanaethau mewn ymateb i’r angen a nodwyd gan, a chyda, y gymuned.
Mae ein gweithgareddau craidd yn cynnwys: blynyddoedd cynnar, rhieni a chwarae, chwarae ar ôl ysgol, cynllun chwarae yn y gwyliau, clybiau ieuenctid iau ac uwch, theatr ieuenctid, rhaglenni cefnogi teuluoedd, gwirfoddoli, Grwpiau Teimlo’n Dda a rhwydweithio cymdeithasol oedolion hŷn.
Bydd ein gwefan yn darparu manylion cyswllt ar gyfer ein gwahanol Brosiectau yn ardal RhCT ynghyd â manylion ein Datblygiad Preswyl yng Ngŵyr, Abertawe. Mae cyfle i logi gofod yn ein Prosiectau yn RhCT ac archebu lle preswyl ym Mhenrhyn Gŵyr.