![](https://www.cwvys.org.uk/wp-content/uploads/2020/09/wales-fed-yfc.jpg)
Mae ‘Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc’ (CFfI) yn sefydliad ieuenctid gwledig dwyieithog, gwirfoddol.
Gan weithredu ledled Cymru mae’r sefydliad yn gweithio gyda phobl ifanc o bob cefndir, rhwng 10 a 26 oed.
Nodau’r sefydliad yw hyrwyddo addysg a datblygiad personol pobl ifanc yng nghymunedau gwledig Cymru.
Cyflawnir hyn trwy amrywiaeth o raglenni addysgol, hyfforddiant a chymdeithasol sy’n annog datblygiad personol, rhyngweithio cymdeithasol, cyfranogiad cymunedol a phryder am yr amgylchedd.