Cymorth i Fenywod Cymru (WWA) yw’r elusen genedlaethol yng Nghymru sy’n gweithio i roi diwedd ar gam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn menywod.

Rydym yn ffederasiwn o sefydliadau arbenigol yng Nghymru (sy’n gweithio fel rhan o rwydwaith o wasanaethau yn y DU) sy’n darparu gwasanaethau achub bywyd i oroeswyr trais a chamdriniaeth – menywod, dynion, plant, teuluoedd – ac yn darparu ystod o wasanaethau ataliol arloesol mewn cymunedau lleol. .
Rydym wedi bod ar flaen y gad o ran llunio ymatebion ac arferion cymunedol cydgysylltiedig yng Nghymru ers inni gael ein sefydlu ym 1978. Gwnawn hyn drwy ymgyrchu dros newid a darparu cyngor, ymgynghoriaeth, cymorth, a hyfforddiant i gyflawni gwelliannau polisi a gwasanaeth ar gyfer goroeswyr, teuluoedd, a chymunedau.
Rydym yn darparu gwasanaethau gan gynnwys Llinell Gymorth Byw Heb Ofn a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a Gwasanaeth Hyfforddiant Cenedlaethol.


Rydym hefyd yn cyflwyno Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol Cymru (NQSS), sef fframwaith achredu cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol yng Nghymru (a gefnogir gan Lywodraeth Cymru). Yn ogystal, mae ein prosiect Newid sy’n Para yn ddull sy’n seiliedig ar gryfderau, wedi’i arwain gan anghenion ac wedi’i lywio gan drawma sy’n helpu i sicrhau bod goroeswyr yn cael yr ymateb cywir i gam-drin domestig, y tro cyntaf erioed. Mae’r fenter hon bellach yn cynnwys ein rhaglen ymyrraeth gynnar ar y cyd sy’n ymroddedig i blant a phobl ifanc.