Mae The Aloud Charity yn fudiad sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn ne ddwyrain Cymru, gan drawsnewid bywydau trwy rym y gân. Trwy dri phrosiect craidd – Only Boys Aloud (darpariaeth rhad ac am ddim), Aloud Voices, ac Academi – rydym yn cefnogi pobl ifanc i ddod o hyd i’w llais yn llythrennol ac yn drosiadol, gan ddarparu cyfleoedd newid bywyd iddynt ar hyd y ffordd.

Ein gwerthoedd yw bod yn rhagorol, yn gynhwysol, yn dysgu ac yn angerddol am yr hyn a wnawn. Rydym yn darparu modelau rôl cadarnhaol a mannau diogel i bobl ifanc ganu gyda’i gilydd a thrwy wneud hynny yn eu cefnogi i feithrin cyfeillgarwch, ymdeimlad o gymuned a gwella eu hyder a’u hiechyd meddwl.

Rydym yn Ddarparwr Sgiliau Dug Caeredin.

Gallwn gynnig gweithdai llesiant a gweithdai adeiladu tîm gan ddefnyddio canu, technegau anadlu neu gyfansoddi caneuon – codir tâl am y rhain.

 

https://www.instagram.com/aloud.cymru/

https://www.tiktok.com/@aloud.cymru

https://www.linkedin.com/company/the-aloud-charity

https://www.youtube.com/@thealoudcharity

https://www.youtube.com/user/OBAloud