Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn grant wythnosol o £40 i gefnogi pobl ifanc 16 i 18 oed o aelwydydd cymwys gyda chostau addysg bellach, fel cludiant neu brydau bwyd. Daeth y Lwfans i ben yn Lloegr yn 2011, ac mae’n cael ei gadw ar gyfradd is o £30 yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ar hyn o bryd mae dros 16 000 o fyfyrwyr yn derbyn y Lwfans, ond bydd 3 500 yn rhagor o ddysgwyr yn elwa arno o ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi .

Y trothwy presennol ar gyfer aelwydydd ag un plentyn dibynnol yw £20,817 – bydd hyn yn cynyddu i £23 400 sy’n golygu y bydd teuluoedd ag incwm aelwyd o £23 400 neu lai yn gymwys i dderbyn y Lwfans.

Y trothwy presennol ar gyfer aelwydydd sydd â dau neu fwy o blant dibynnol yw £23 077 a bydd hyn yn cynyddu i £25 974, sy’n golygu y bydd teuluoedd ag incwm aelwyd o £25 974 neu lai yn gymwys i dderbyn y Lwfans.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:

 “Mae Cymru eisoes yn darparu’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, sy’n helpu dysgwyr ôl-16 i barhau i astudio cyrsiau academaidd neu alwedigaethol, ac mae’r newid hwn yn golygu y byddwn nawr yn cefnogi miloedd yn rhagor o ddysgwyr.

Rydym yn falch iawn o’n record o gynnal a chynyddu’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Rydym yn glir bod ein Cyllideb Ddrafft yn gyllideb ar gyfer dyfodol mwy disglair ac mae’r newid hwn i feini prawf cymhwystra’r Lwfans yn un o’r ffyrdd yr ydym yn cyflawni hyn. Mae’r cyhoeddiad yn golygu y bydd miloedd yn rhagor o ddysgwyr nawr yn elwa ar gymorth ariannol pellach i barhau neu ddechrau ar eu taith addysg bellach.