![](https://www.cwvys.org.uk/wp-content/uploads/2020/08/1.jpg)
Canlyniadau galwad cyllid Llwybr 2 2023 Taith
14th March 2024
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi bod yn llwyddiannus yng ngalwad cyllid Llwybr 2 Taith. Roedd Llwybr 2 2023 yn agored i sefydliadau o’r sectorau Ysgolion, Ieuenctid, Addysg Oedolion, Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol. Dilynwch y linc er mwyn weld tabl o'r grwpiau llwyddiannus - Canlyniadau galwad cyllid Llwybr 2 2023 Taith - Taith
Dydy hi ddim yn rhy hwyr i gymryd rhan yn Llwybr 1 Taith!
14th March 2024
Dydy hi ddim yn rhy hwyr i gymryd rhan yn Llwybr 1 Taith! Y dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau ydy 12:00pm ar 20 Mawrth. Ydy eich ysgol neu sefydliad yn ystyried gwneud cais am gyllid Llwybr 1 Taith ar gyfer eich gweithgareddau symudedd rhyngwladol? Mae WCIA a Diverse Cymru yma i'ch helpu. Fel Hyrwyddwyr…
Arolygwyr Cymheiriaid Gwaith Ieuenctid – Estyn
14th March 2024
Mae Estyn yn recriwtio arolygwyr cymheiriaid i weithio gyda nhw yn ystod ei harolygiadau ieuenctid. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr unigol sydd: Ag o leiaf 3 blynedd o brofiad mewn sefydliad gwaith ieuenctid neu ym maes gwaith ieuenctid; Â phrofiad â thâl neu heb dâl (gwirfoddolwr) yn eu rôl gwaith ieuenctid, yn amser llawn neu’n rhan-amser;…
Cryfhau’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru – Diweddariad gan Llywodraeth Cymru.
2nd March 2024
Cynhaliwyd cyfres o sesiynau galw heibio 'Yr Awr Fawr’ ar gyfer gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid ym mis Rhagfyr 2023 i gyflwyno'r dull arfaethedig o gryfhau'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, gan adeiladu ar ddatganiad diweddar Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Daeth dros 70 o bobl i'r sesiynau, ac roedd hynny…
Cyllideb Derfynol 2024 i 2025 gan LLYW.CYMRU
28th February 2024
https://www.llyw.cymru/cyllideb-derfynol-2024-2025 Mae’r Gyllideb derfynol a gyhoeddwyd ar 27Chwefror 2024 yn rhoi manylion ynghylch cynlluniau’r llywodraeth o ran ariannu, trethiant a dyraniadau ar lefel MEG. Mae hefyd yn nodi cynigion gwario refeniw a chyfalaf y llywodraeth, gan gynnwys cynlluniau gwario manwl y portffolios.
GWEMINAR: Promo Cymru – Cynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
14th February 2024
Cyflwynir y gweminar yma gan y Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Y Gymraeg, un o bum grŵp sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid. Un o brif argymhellion yr adroddiad Mae'n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru oedd y “Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y…
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn croesawu aelodau newydd i’w Fforwm Llysgenhadon Ieuenctid
5th February 2024
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn croesawu aelodau newydd i'w Fforwm Llysgenhadon Ieuenctid (dyfedpowys-pcc.org.uk) Ddydd Mercher 31 Ionawr, croesawodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn bobl ifanc o bob rhan o ardal yr Heddlu i Bencadlys yr Heddlu yng Nghaerfyrddin, sydd wedi’u penodi’n aelodau newydd o gynllun Llysgenhadon Ieuenctid Dyfed-Powys, ac a fydd yn…
Llywodraeth Cymru i wahardd fêps tafladwy a chefnogi cynlluniau i godi oedran smygu
5th February 2024
Llywodraeth Cymru i wahardd fêps tafladwy a chefnogi cynlluniau i godi oedran smygu | LLYW.CYMRU Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Lynne Neagle wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau i wahardd fêps tafladwy ac yn cefnogi deddfwriaeth Llywodraeth y DU i godi'r oedran smygu a chyfyngu ar werthu fêps.…
Plant a phobl ifanc sydd ar yr ymylon – Senedd Cymru
25th January 2024
Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i Blant a Phobl Ifanc ar yr Ymylon, sy'n ymwneud yn gryno â phlant coll a'r rhai sy'n agored i gamfanteisio troseddol. Mae’r ymchwiliad hwn yn dilyn adroddiad y Pwyllgor ar ddiwygio radical ar gyfer plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. O'r dystiolaeth…
Cyfleoedd Hyfforddi Am Ddim i’r Sector Gwaith Ieuenctid
18th January 2024
Mae ETS Cymru Wales yn gyffrous i lansio ei raglen hyfforddi ar gyfer 2023 / 2024 trwy gynnig dau gwrs cyffrous: Goruchwyliaeth yn y Cyd-destun Gwaith Ieuenctid (Cyrsiau Achrededig Lefel 3) Hyfforddiant Niwroamrywiaeth (cyfres o weithdai)Os hoffech wybodaeth neu i sicrhau lle, dilynwch y ddolen hon: http://tinyurl.com/tktcn35zCofiwch gadw llygad ar Eventbrite ETS Cymru Wales gan…
Llywodraeth Cymru – Adolygiad Cyllid
21st December 2023
Fel y gwyddoch efallai, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu tîm o ymchwilwyr o brifysgolion Cymru i gynnal Adolygiad Cyllid. Mae hwn yn ddarn hanfodol o waith ac mae'n seiliedig ar un o'r 14 argymhelliad y mae'r Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid yn gweithio arnynt. Mae'n hanfodol bod llais y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yn cael…
Datblygu Argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro: Y camau nesaf
15th December 2023
Heddiw mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi amlinellu’r camau nesa i ddatblygu argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro gyda’r nod o sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae modd darllen mwy yma. Ymuna yn y sgwrs Diolch i bawb sydd wedi bwydo mewn i’r gwaith hwn hyd yma. Bydd…