Mae consortiwm o 10 o aelodau’r CWVYS yn gweithio gyda’i gilydd i adeiladu cymunedau cryfach gyda rhaglen o weithgareddau cymunedol wedi’i arwain gan ieuenctid ac yn cael ei drosglwyddo trwy weithio cydweithredol.

Aelodau consortiwm
Sgowtiaid Cymru
SYDIC – Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd
Dr M’z – Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin
Clybiau Bechgyn a Genethod Cymru
ProMo-Cymru
CCYP – Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân
Shelter Cymru
Tai Wales & West
Theatr Fforwm
Tîm Cefnogaeth Ieuenctid Ethnig (EYST)

Mae’r prosiect yn cysylltu oddeutu 40 o bobl ifanc mewn 4 tîm prosiect partneriaeth sydd yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu

  • Digwyddiad ymglymiad cymunedol yn eu hardal leol
  • Cyfres o weithgareddau gyda thema fydd yn ymglymu aelodau’r gymuned leol neu fel arall yn datblygu perthnasau cymunedol dda

Mae timau’r prosiect yn cael cefnogaeth gan sefydliadau arbenigol gyda hyfforddiant, datblygiad, rheoli digwyddiadau a gwerthuso.

Trosolwg o’r Prosiect

Hyfforddiant gwaith ieuenctid gweithiwr ieuenctid: 4 uned o ‘Cam tuag at Waith Ieuenctid’, rhaglen ymsefydlu’r CWVYS. Bydd hyn yn cael ei achredu gan Agored ar lefel 2, trwy Goleg Cymunedol YMCA Cymru. Bydd un person ifanc o bob grŵp hefyd yn mynychu’r sesiynau yma yn chwarae rhan llysgennad

Hyfforddiant i gyfranogwyr ieuenctid: Bydd gweithdai adeiladu sgiliau yn cael eu darparu gan arbenigwr sector. Anghenion sydd wedi’u hadnabod er mwyn cwblhau’r prosiect yn llwyddiannus ydy Rheoli Prosiect; Beth ydy cymuned; Amrywiaeth a chydraddoldeb. Bydd arweinydd ieuenctid prosiect o bob sefydliad hefyd yn mynychu’r sesiynau yma

Panel llywio ieuenctid: bydd hwn yn cael ei sefydlu yng nghyfnodau buan y prosiect, bydd cyfranogwyr yn cael eu nodi gan Weithiwr Ieuenctid y Prosiect. Bydd y panel hefyd yn cymryd rhan yn yr holl benderfyniadau, ac yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y diwrnodau briffio a hyfforddi Gweithwyr Ieuenctid, i ehangu dealltwriaeth o’r prosiect a datblygu hyder.

Digwyddiad ymrwymo’r gymuned: Digwyddiad untro i wahodd aelodau ac/neu hapddalwyr allweddol o’r gymuned i ymrwymo gyda’r bobl ifanc.

Cyfres o weithgareddau â thema: Fydd yn ymrwymo aelodau o’r gymuned leol neu fel arall i ddatblygu perthnasau cymunedol da. Mae’r thema a’r gweithgareddau yn cael eu dewis gan y bobl ifanc, gallai fod yn brosiect amgylcheddol, prosiect ffilm/ffotograffiaeth, sioe ci – beth bynnag sydd yn cyfarfod anghenion y gymuned.

Mae’r prosiect yn rhedeg o fis Chwefror 2014 i fis Ionawr 2015 wedi cael ei ariannu gan Sefydliad Paul Hamlyn.