A oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect cerddoriaeth arloesol? Allwch chi grisialu curiad calon cymdeithas a chanfod ffyrdd newydd creadigol o ennyn diddordeb cerddorion?
Mae CONGLFEINI yn rhaglen ddatblygu gyffrous ac yn gyfle ariannu gan Cerdd Gymunedol Cymru i unigolion brwdfrydig a chanddynt syniadau newydd sy’n barod i gychwyn ar yrfa ym maes cerddoriaeth gymunedol.
Rydym yn awyddus i weld ymarferwyr cerddoriaeth deinamig o Gymru, o bob cefndir (18 oed+) yn cofrestru ar y rhaglen er mwyn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr mewn rheoli prosiect ac ymarfer cyfranogol, cymorth i fentoriaid a chyfleoedd rhwydweithio hanfodol. Ac ar yr un pryd ehangu eu sgiliau mewn:
+ Cynllunio prosiect
+ Datblygu a phennu canlyniadau
+ Rheoli cyllideb/rheolaeth ariannol
+ Ariannu gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, ymddiriedolaethau a sefydliadau
+ Partneriaeth a rhwydweithio
+ Gweinyddu
Drwy weithio ochr yn ochr â sefydliadau partner, bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn derbyn cyllid i’w helpu i droi eu syniadau yn brosiectau newydd deinamig y gellir eu cyflawni.
Mae Cerdd Gymunedol Cymru yn elusen gelfyddydol genedlaethol, sy’n gweithio ar draws tirwedd greadigol Cymru.
Mae Conglfeini yn cael ei ariannu gan Raglen Llwybrau Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Incubator Fund Youth Music
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Medi 2021. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag admin@communitymusicwales.org.uk |