Mae’r grwpiau rydym yn awyddus i’w cefnogi yn darparu gwasanaethau a gweithgareddau a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd ac unigolion lleol sy’n wynebu argyfwng a chaledi. Mae’r grwpiau rydym yn awyddus i’w cefnogi yn darparu gwasanaethau a gweithgareddau a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i deuluoedd ac unigolion lleol sy’n wynebu argyfwng a chaledi.

Mae’r dyddiad cau i wneud cais yn un hanner dydd ddydd Mawrth 4ydd Gorffennaf 2023.

Bydd grantiau yn cwmpasu eu costau craidd a/neu prosiect grwpiau a all ddangos eu bod yn darparu gwasanaethau i’r gymuned er mwyn helpu i leihau sefyllfaoedd o argyfwng a chaledi.  Gall grwpiau wneud cais am uchafswm grant o £5,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd.

Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer cyllid aml–flwyddyn, rhaid i grwpiau allu cynhyrchu o leiaf un set o gyfrifon blynyddol (h.y. wedi bod mewn bodolaeth am o leiaf 12 mis).

Mae’r gronfa hon yn agored i elusennau a sefydliadau cymunedol sydd â chyfansoddiad, sy’n cefnogi pobl yn y gymuned leol o ganlyniad uniongyrchol i’r argyfwng costau byw:

  • Grwpiau Cyfansoddedig
  • Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol
  • Cwmnïau Cyfyngedig drwy Warant (Nid er elw preifat)
  • Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
  • Mentrau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein yma: https://communityfoundationwales.org.uk/cy/grants/ein-cymunedau-gydan-gilydd-cronfa-costau-byw/