Ddydd Mercher 10 Gorffennaf, trafododd y Cynulliad egwyddorion cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) a’u cymeradwyo. Bydd linc i recordiad fideo a thrawsgrifiad o’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar gael ar dudalen we’r Bil maes o law.
Bydd y Bil bellach yn symud i Gyfnod 2 o’r broses ddeddfwriaethol, pan gaiff ei drafod fesul llinell, a bydd cyfle i’r Aelodau awgrymu newidiadau i’r Bil. Disgwylir i’r trafodion Cyfnod 2 gael eu cynnal ym mis Hydref mewn cyfarfod Pwyllgor o’r Cynulliad Cyfan. Cewch wybod mwy am y broses ddeddfwriaethol ar wefan y Cynulliad.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ddatblygiadau arwyddocaol wrth i’r Bil symud drwy gyfnodau craffu’r Cynulliad. Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am raglen diwygio’r Cynulliad ymwelwch a thudalennau rhaglen ddiwygio’r Cynulliad.