Rydym yn rhannu neges ar rhan Gwaith Ieuenctid Cymru:

📢 Alwad i bob sefydliad gwaith ieuenctid, ymarferwyr a phobl ifanc 📢

Dewch i gymryd drosodd sianeli @YouthWorkinWales neu @IeuenctidCymru am diwrnod!

Rydyn ni’n gyffrous i gyhoeddi ‘takeover’ ar ein cyfryngau cymdeithasol i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni🌟

Rhwng y 23ain i’r 30fed Mehefin rydym yn gwahodd gwahanol sianeli cyfryngau cymdeithasol i GYMRYD DROS ein sianel ni. Rydyn ni eisiau clywed oddi wrthoch CHI! 🗣️ Rhannwch eich straeon, eich profiadau, a’ch meddyliau ar pam mae gwaith ieuenctid yn bwysig. Sut mae wedi siapio eich bywyd? Pam ei fod yn bwysig i’n cymuned? Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?

Anfonwch e-bost atom drwy manon@cwvys.org.uk neu branwen@cwvys.org.uk yn amlinellu’r hyn yr hoffech ei weld yn ystod y ‘takeover’ ac am ragor o fanylion. 💪💪