Mae Cynhadledd Gwaith Ieuenctid Genedlaethol 2021 yn brysur agosáu, ond wythnos i fynd!
Mae’r gynhadledd ddigidol undydd ar 14 Hydref yn cynnig amrediad eang o sesiynau gweithdy ar faterion sy’n effeithio ar y sector gwaith ieuenctid.
Mae crynodeb o’r rhaglen i’w weld yma; Cynhadledd Genedlaethol Gwaith Ieuenctid 2021
Yn y digwyddiad rhithiol bydd gennych yr opsiwn i ddewis gweithdy awr a dau weithdy 30 munud. Nid oes angen dewis y gweithdai ymlaen llaw – ond bydd angen i chi gofrestru cyn 14 Hydref i gael mynediad i’r digwyddiad – dolen isod, a cyfarwyddiadau pellach yma; https://www.cwvys.org.uk/fwciwch-lle-ar-gyfer-cynhadledd-genedlaethol-gwaith-ieuenctid-2021-ar-ddydd-iau-14-hydref/?lang=cy.
Ar ben hynny, bydd prif anerchiadau gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a Keith Towler, Cadeirydd Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru.
Mae rhywbeth i bawb, felly peidiwch â cholli allan!
I fwcio eich lle am ddim, cliciwch ar y ddolen hon: