Mis ‘ma mae Chwarae Cymru wedi lansio Pan o’n i dy oed di…, ymgyrch newydd sydd wedi ei dylunio i herio’r rhagdybiaethau am arddegwyr a chwarae trwy ysbrydoli nostalgia ac atgoffa oedolion sut beth ydi bod yn ifanc.
Er bod chwarae, neu ‘gymdeithasu’, yn edrych yn wahanol heddiw efallai diolch i gyflwyniad technoleg a newid mewn arferion cymdeithasol, rydym am annog arddegwyr a’u rhieni, gwarchodwyr neu eu teidiau a’u neiniau i gymharu eu profiadau o chwarae a sylwi ar y tebygrwydd rhyngddyn nhw – boed hynny’n ddysgu dawns oddi wrth TikTok, neu oedolion yn chwarae ‘Snake’ ar eu Nokia 3310 ychydig flynyddoedd yn ôl!
Mae arddegwyr o bob cwr o Gymru wedi bod yn rhoi llais i’r ymgyrch, gan rannu eu profiadau o chwarae a chymdeithasu gyda’u ffrindiau, ac annog oedolion i feddwl am y tebygrwydd rhyngddyn nhw er mwyn annog pobl i fod yn fwy goddefgar o’u presenoldeb mewn mannau cyhoeddus.
Dyma ble rydym angen eich cymorth chi a’ch sefydliad!
Rydym angen eich help i rannu neges bwysig #PanOnIDyOedDi gyda chymaint â phosibl o arddegwyr ac oedolion yn rhannu eu profiadau.
Isod mae pecyn cymorth (yn Gymraeg a Saesneg) gyda mwy o wybodaeth am yr ymgyrch, a sut y gallwch ymuno yn y gwaith hyrwyddo trwy rannu ac annog y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Defnyddiwch y pecyn cymorth i ddysgu mwy am yr ymgyrch, a chael hyd i esiampl o destun i’w gynnwys mewn e-gylchlythyrau ac ar wefannau
- Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a rhannu cynnwys #PanOnIDyOedDi
- Annog eich rhwydweithiau, eich cydweithwyr, eich ffrindiau a’ch teulu i gymryd rhan
- Lawrlwythwch a rhannwch ein hasedau – https://www.dropbox.com/scl/fo/nkwcuxk4wp9uc3uxdatv2/h?dl=0&rlkey=85hkcr31cst0ywz7dj9sxvtju