Ar Diwedd yr haf cyhoeddodd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) Ystadegau Blynyddol Gweithlu Addysg Cymru.

Ystadegau Blynyddol Gweithlu Addysg Cymru 2024 y rheolydd annibynnol, proffesiynol yw’r ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o wybodaeth am y rhai sy’n gweithio mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, a dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Daw’r data o Gofrestr Ymarferwyr Addysg CGA.

Fel y gwyddoch efallai, ers rhai blynyddoedd bellach, bu’n ofynnol i weithwyr ieuenctid cymwysedig a staff cymorth gwaith ieuenctid gofrestru gyda CGA, ond am y tro cyntaf mae adroddiad eleni yn cynnwys gwybodaeth am athrawon a staff cymorth dysgu sy’n gweithio mewn ysgolion annibynnol a colegau. Yn dilyn gofyniad newydd gan y llywodraeth ym mis Mai 2023, gan ei gwneud yn hanfodol bod eu staff yn cofrestru gyda CGA, ac felly eu hymddygiad a’u hymarfer yn cael eu rheoleiddio.

Erys recriwtio effeithiol i’r proffesiynau addysg, a chadw’r ymarferwyr hyn wedi hynny, yn flaenoriaeth nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd. Mae niferoedd y gweithlu yng Nghymru wedi aros yn weddol sefydlog o gymharu â 2023, ond bu gostyngiad bach yn nifer y gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion.

Mae Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg Cymru 2024 ar gael i’w ddarllen ar wefan CGA.